Llety

Llety Prifysgol

Mae'r brifysgol yn cynnig nifer cyfyngedig o ystafelloedd. Llenwch a dychwelwch y ffurflen gysylltiedig yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y ffurflen. Lawrlwythwch:

Llenwch y ffurflen archebu a’i hanfon yn ôl at:

Sharon Hughes,
Gwasanaethau Cynadledda,
Neuadd Reichel,
Prifysgol Bangor,
Ffordd Ffriddoedd,
Bangor, Gwynedd LL57 2TR

Ffôn: (01248) 38 2822
E-bost: s.hughes@bangor.ac.uk

Llety amgen yn y cyffiniau

Am fwy o wybodaeth am leoedd i aros ym Mangor a'r cyffiniau (e.e. Caernarfon ac Ynys Môn), ewch i wefan lety Croeso Cymru.

Mae Bangor yn gyrchfan gwyliau haf poblogaidd, felly gwnewch yn siŵr o archebu eich ystafelloedd ddigon ymlaen llaw.

Ar y trên

Mae Prif Adeilad y Celfyddydau tua 10 munud o daith gerdded o’r orsaf reilffordd neu, fel arall, gallwch gymryd tacsi o’r orsaf i’r safle, am gost o ryw £3.50.

Cyrraedd mewn car

Os byddwch yn cyrraedd mewn car, cod post y safle yw LL57 2DG. Mae lle parcio am ddim i'w gael a gellwch gael eich trwydded barcio pan fyddwch yn cofrestru.