Cynhadledd Flynyddol ASMCF 2017: Gwaith a Chwarae
Cynhelir cynhadledd flynyddol 2017 Cymdeithas Astudio Ffrainc Fodern a Chyfoes (ASMCF) ym Mhrifysgol Bangor. Y thema fydd 'Gwaith a Chwarae'. Gwelir yr alwad am bapurau yma. Cynhelir y gynhadledd o 7-9 Medi 2017.
Prif siaradwyr a gadarnhawyd
- Helen Abbott (Prifysgol Birmingham)
- Claude Boli (Responsable scientifique du Musée National du Sport, Nice)
- Sarah Waters (Prifysgol Leeds)
Gwybodaeth am y gynhadledd
Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor sy'n cynnal y gynhadledd, gyda chefnogaeth Coleg Celfyddydau a Dyniaethau'r brifysgol. Trefnwyr y gynhadledd yw Dr. Jonathan Ervine, Dr. Gillian Jein a Dr. Armelle Blin-Rolland.