Galwad Am Bapurau: Gwaith a Chwarae
O'r Cwrt Tenis i Nuit Debout, mae gwaith a chwarae wedi chwarae rhan mewn trefnu bywyd cymdeithasol-wleidyddol yng Ngweriniaeth Ffrainc. O safbwynt diwylliannol hefyd, mae gwaith a chwarae yn cyfrannu at ffurfio hunaniaeth, ac mae hyn yn gwahodd rhywun i adfyfyrio ar y perthnasoedd grym sydd yn y fantol wrth adeiladu a dadadeiladu hunaniaethau. Wrth wahodd cynigion am bapurau ar y thema hon, mae'r gynhadledd hon yn ceisio cynnull ynghyd ystod eang o ddulliau disgyblaethol i ystyried damcaniaethau, sylwadau, arferion a chysylltiadau rhwng gwaith a chwarae yn Ffrainc a gweddill y byd Ffrangeg ei iaith. Bwriad thema'r gynhadledd, sy'n rhychwantu cymdeithaseg, gwleidyddiaeth, anthropoleg yn ogystal ag estheteg a diwylliant, yw ysgogi trafodaeth ar draws maes ymchwil eang.
Gwahoddir cynigion ar gyfer papurau 20 munud yn y meysydd canlynol (nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr):
- Gwleidyddiaeth gwaith a chwarae: llafur a hamdden
- Perthnasoedd rhwng dosbarthiadau, mudiadau cymdeithasol
- Materion hunaniaeth: gender, rhywioldeb, cyrff, iaith
- Seicolegau: gwyriad, gwrthryfel, iselder, hiwmor
- Damcaniaethau ac arferion 'perfformio'
- Aestheteg gwaith a chwarae: arbrofi, addasu
- Gofodau gwaith a chwarae: gwirioneddol, rhithwir
- Athroniaethau gwaith a chwarae
- Chwaraeon, gemau
- Diweithdra, diogi
- Gwaith, chwarae ac amser
Rydym yn gwahodd y ddau gynnig (uchafswm o 250 o eiriau) ar gyfer papurau unigol a phaneli, a ddylai gynnwys tri chyflwynydd a chadeirydd wedi ei enwi. Ugain munud fydd hyd pob papur a gellir traddodi yn Saesneg neu Ffrangeg. Anogir myfyrwyr ôl-raddedig yn gryf i gyflwyno papurau.
Gwobr Traethawd Ol-radd
Anogir ol-raddedigion sy'n cyflwyno yn y gynhadledd i gyflwyno eu papurau ar gyfer Gwobr Traethawd Ôl-radd ASMCF. Mae'r Wobr yn cynnwys siec am £50 a gwahoddiad i'r enillydd gyflwyno eu papur i gyfnodolyn y Gymdeithas, Modern and Contemporary France. Os hoffech fwy o wybodaeth am y wobr, cysylltwch á Cynrychiolydd Ol-raddedigion ASMCF, James Illingworth: jillingworth01@qub.ac.uk
Mae cynllun ar y gweill ar gyfer cyhoeddiad fydd yn gysylltiedig â thema'r Gynhadledd.